Disgrifiad
Nofel sci-fi a stori garu. Mae Erin wedi cael llond bol ar ei bywyd diflas, ei gwaith di-ddim a’i chariad difeddwl. Mae hi’n dyheu am fywyd gwell ac yna … un noson, yn ei chwsg, mae Morgan yn ymddangos. Dyn ei breuddwydion. Yn sydyn mae bywyd yn werth ei fyw ond dim ond pan mae hi’n cysgu …



