Disgrifiad
Y pumed teitl yng nghyfres arobryn dyddiadur hynod ddoniol y llipryn o fachgen ysgol, Greg Heffley, sy’n ysu i dyfu’n ddyn. Ond efallai nad yw partïon bechgyn-a-merched, cyfrifoldebau ychwanegol a newidiadau corfforol yr arddegau yn fêl i gyd! Cyfieithiad Cymraeg o The Ugly Truth gan Owain Siôn.



