Disgrifiad
Llyfr lliwio yn adrodd stori swynol am robin goch yn darganfod llythyr coll at Siôn Corn gan blentyn o Aberystwyth. Mae’r robin yn helpu Siôn Corn i orffen dosbarthu ei anrhegion i gartrefi’r byd ar noswyl Nadolig, gan alw yn Efrog Newydd, Paris a Llundain, a theithio ar hyd a lled Cymru cyn gorffen y daith yn Aberystwyth.



