Disgrifiad
Canllaw hwylus i seiclo Lôn Las Cymru 255 milltir o hyd (410km) o Gaerdydd i Gaergybi, gan ddangos gogoniannau Cymru ddiwydiannol a harddwch cefn gwlad. Dilynir heolydd tawel a llwybrau di-draffig, ac er bod rhai adrannau mynyddig, mae’r graddfeydd yn ysgafn ar y cyfan. Gellir cwblhau’r daith mewn 4-7 niwrnod.



