Disgrifiad
Gareth Bale yw un o bêl-droedwyr ifanc mwyaf addawol yr Uwch Gynghrair, ac ystyrir ef yn un o dalentau gorau’r byd pêl-droed yn Ewrop. Gareth oedd yr ail ieuengaf erioed i chwarae pan ymunodd â thîm Southampton yn 2008. Nid yw’n syndod ei fod yn chwarae hefyd i Gymru, ac y mae wedi cael ei gymharu â Ryan Giggs.



