Disgrifiad
Dadansoddiad o weithgarwch chwe phlaid – y Ceidwadwyr, Plaid Werdd yr Alban, Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Genedlaethol yr Alban a Phlaid Sosialaidd yr Alban – yn ystod Refferendwm Annibyniaeth yr Alban 2014. Gosodir cwestiwn y refferendwm ar annibyniaeth o fewn ei gyd-destun rhyngwladol, ac edrychir ar ymddangosiad sefydliadau newydd.



