Disgrifiad
Caiff chwedl y Greal Sanctaidd ei chysylltu â nifer o wahanol safleoedd o amgylch y byd, ac yn eu plith y mae Llangollen yng ngogledd Cymru, ac adfeilion castell Dinas Brân uwchlaw’r dref. Mae’r gyfrol hon, sy’n edrych ar ddirgelwch y Greal Sanctaidd a Dinas Brân, yn ffrwyth ymchwil hanesyddol a diddordeb personol yr awdur yn ei hanes.




