Disgrifiad
Cyfrol ddwyieithog, ddarluniadol yn dathlu hanes ac archaeoleg ucheldiroedd Gwent. Ceir ynddi wledd o luniau, mapiau, cynlluniau a lluniau hanesyddol sy’n dwyn y darllenydd ar daith gyffrous o gyfnod offer fflint a bryngaerau cynhanes hyd at wrthryfel y Siartwyr a diwydiannau’r ugeinfed ganrif.



