Disgrifiad
Mae roced yr Athro Ephraim R. Efflwfia yn hyrddio tua’r Lleuad, ac arni mae Tintin a’i gyfeillion yn syrthio i lond côl o beryglon. Er holl rwystrau’r daith, mwy fyth yw’r anawsterau unwaith iddyn nhw lanio ar y blaned lychlyd oer. Ai yma, ar Leuad lawr mor bell o’r Ddaear las, y bydd holl anturiaethau Tintin, Milyn a’r Capten Hadog yn dod i…



