Disgrifiad
Yn dirwyn cyfres y Derwyddon i ben, mae ymchwil y derwydd Gwynlan i lofruddiaethau mynachod o eglwys Geltaidd y 6ed ganrif yn ei gludo dros ddyfroedd rhynllyd i geisio’r Pair Dadeni. Gyda’i wrthwynebwyr mileinig yn dynesu a llid y duwiau’n llenwi’r wybren, daw’n amlwg pwy yw ei elynion annisgwyl.



