Disgrifiad
Mae Obelix yn ddwl am Ffalabala… mae e dros ei ben a’i glustiau mewn cariad â hi. Ond mae calon yr eneth wedi torri – mae ei darpar ŵr, Rafingolygix, wedi cael ei orfodi i ymuno â byddin Cesar. I gadw Ffalabala rhag cur, achub Rafingolygix yw’r nod i Asterix ac Obelix. Wrth i’r ddau ddod yn filwyr i Gesar, bydd cariad yn sicr yn drech…



