Disgrifiad
Casgliad o lythyrau a ysgrifennwyd yn ystod blynyddoedd y Chwyldro Ffrengig a’r rhyfeloedd ar gyfandir Ewrop a ddaeth yn ei sgil sydd yn y gyfrol Welsh Correspondence of the French Revolution 1789–1802. Cynhwysir rhagymadrodd a nodiadau manwl ar dros ddeugain o lythyrau, gyda chyfieithiadau o’r Gymraeg a’r Ffrangeg, fel bo’n briodol.




