Disgrifiad
Brodor o Went yw Frank Olding, a dyma’i gasgliad cyntaf o farddoniaeth. Mae’r gyfrol hon yn adlewyrchu profiad Cymro Cymraeg yn ne-ddwyrain Cymru wrth geisio hybu a defnyddio’r iaith yn yr ardal. Yn ogystal â cherddi mwy personol eu naws, mae hi hefyd yn cynnwys cerddi sy’n ymateb i dirlun, hanes a llên gwerin Cymru benbaladr.



