Disgrifiad
Mae Hanes creu popeth yn y byd yn gylch o 7 o ganeuon gan Robat Arwyn a’r geiriau gan Mererid Hopwood sy’n addas i gorau o bob oed a nifer o ddewisiadau lleisiol. Portreadu sgwrs mae’r caneuon, rhwng y genhedlaeth iau a’r genhedlaeth hŷn, gyda’r naill yn gofyn i’r llall ‘O ble ddaeth y byd?’ Esbonnir y cyfan yn ôl y drefn a geir yn Genesis.



