Disgrifiad
Dyma hanes Cliff Jones o Abertawe, un o asgellwyr chwith gorau’r byd a chwaraeodd i dîmau pêl-droed Abertawe, Tottenham Hotspur a Fulham. Enillodd 59 o gapiau rhyngwladol ac roedd yn aelod o dîm Cymru a gyrhaeddodd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 1958. Rhageiriau gan Ryan Giggs a Gareth Bale.



