Disgrifiad
Er bod yr ysgyfarnog yn wynebu pwysau amgylcheddol cynyddol, deil y creadur i swyno a drysu dyn, ac mae’r gyfrol hon, a gyhoeddir mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Diogelu’r Ysgyfarnog, yn cynnig golwg dreiddgar ar y creaduriaid hudolus hyn.



