Disgrifiad
Mae Tomos, sy’n bump oed, yn byw gyda’i fam a’i chariad, ond mae e’n ysu am gael dychwelyd i fan arall y mae’n ei gyfrif yn gartref iddo. Daw’r cyfnod anodd hwn yn ei fywyd i’r pen pan ddaw criw o ddynion at y tŷ, ond nid yw ei fam am agor y drws iddynt, a rhaid i Tomos guddio a chadw’n dawel.



