Disgrifiad
Stori Gothig, afaelgar am berchnogaeth, gwallgofrwydd a llofruddiaeth wedi’i gosod yn ‘Abercoran’ ar arfordir de-orllewin Cymru yn ystod teyrnasiad Siôr III. Dyma bortread telynegol, eithriadol o fywyd yn y Gymru wledig yn yr oes o’r blaen, ynghyd ag astudiaeth seicolegol o ŵr wedi’i yrru’n wallgof gan chwant.



