Disgrifiad
Argraffiad wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru o gyfrol yn olrhain hanes trigolion y bryngaerau ar hyd Bae Ceredigion drwy edrych ar arteffactau a ddarganfuwyd a thrafod yr hyn sy’n wybyddus am gymdeithas yn yr Oes Haearn. Daw’r cyfnod a’i dirwedd yn fyw drwy gyfrwng ffotograffau nodedig Toby Driver a dynnwyd o’r tir, y môr a’r awyr.



