Disgrifiad
Os yw Mam wedi mynd, sut fedrwch chi ymdopi? Mae’r golled fel cwmwl du yn eich dilyn i bobman, neu fel nofio at lan nad yw byth yn cyrraedd. Ond mae atgofion fel siwmper y medrwch ei gwisgo a chwtsho ynddi, ac mae siwmper Mam yn ffordd o’i chadw hi’n agos atoch. Dyma stori syml, gynnes-galon i godi ysbryd unrhyw un sy’n ceisio ymdopi â cholled.



