Disgrifiad
Teitl arall mewn cyfres sy’n adrodd hanes un wedd ar etifeddiaeth drafnidiaeth Cymru, sef y gwasanaeth tramiau, yn dangos ôl ymchwil manwl ac yn cynnwys lluniau niferus. Canolbwyntir yn y gyfrol hon ar Ogledd Cymru, yn ystod cyfnod pan fu defnydd mawr ar y gwasanaeth gan ymwelwyr.



