Disgrifiad
Stori ddarluniadol, dyner am fachgen bach a’i deulu yn treulio amser wrth y pwll yn yr ardd er mwyn ceisio dod i delerau â cholli ei dad. Mae’r gyfrol emosiynol hon yn llawn delweddau lliwgar o fyd natur er mwyn helpu plant bach i ddysgu am farwolaeth a cholled, ac am bwysigrwydd y byd o’u cwmpas.



