Disgrifiad
Un bore, mae Albie y ci defaid yn deffro i weld bod ei gydymaith Nellie wedi diflannu. Tybed i lle’r aeth hi? Fel arfer, mae’r ddau yn gorwedd o flaen tân y gegin gyda’i gilydd, neu’n chwarae yn yr ardd ac yn y caeau gerllaw. Wrth gychwyn ar ei antur i chwilio am Nellie, caiff Albie ei swyno gan olygfeydd ac arogleuon cyfarwydd ac anghyfarwydd…



