Disgrifiad
Addasiad Cymraeg o Still Alice gan Lisa Genova. Pum deg mlwydd oed yw Alys pan mae’n cael ei thynnu i bwll diwaelod clefyd Alzheimer. Mae’n athro prifysgol, gwraig, mam i dri o blant, gyda llyfrau i’w hysgrifennu, llefydd i’w gweld ac wyrion eto i’w cyfarfod.



