Disgrifiad
Billy Bandril yw seren fawr y teledu! Wedi’i hantur ddiweddaraf, carai Lucy Wilson dreulio amser yn ymlacio o flaen y teledu, ond dyw Hobo ddim yn siŵr … mae rhywbeth sinistr am Billy a’i ddylanwad dros y gwylwyr. Pan ddaw Lucy wyneb yn wyneb â Billy ar yr awyr, rhaid i Hobo dorri ar draws y darllediad, cyn i’r llenni gau … am byth.



