Disgrifiad
Mae Molly’n dihuno un bore i ganfod bod y ty yn wag. Aeth ei thad ar daith bysgota ond nid yw wedi dychwelyd. Mae Molly’n casglu ei thrysorau mwyaf gwerthfawr – loced, llun o’i thad a’i hoff ddol – ac yn mynd lawr i’r harbwr i’w cyflwyno yn rhodd i’r môr yn gyfnewid am fywyd ei thad. Stori am gariad, aberth a gobaith.



