Disgrifiad
1904: Caiff Ellen sy’n 21 oed ei galw adref o’i bywyd newydd yn New Jersey, i gynorthwyo ar y fferm deuluol ar arfordir garw Gŵyr oherwydd iechyd bregus ei thad sy’n alcoholig. Mae Ellen yn ddyfeisgar, yn onest ac yn llawn angerdd, ond tybed a fydd hi’n dewis cartref a dyletswydd, neu gyfle a chyffro ar draws Môr Iwerydd?




