Disgrifiad
Mae Dai yr hwyaden yn benderfynol o gyrraedd y brig ym mhopeth ar unwaith, boed hynny yn sglefrfyrddio neu’n sillafu, yn chwarae rygbi neu’n meddwl am y ddyfais fawr nesaf. Yma mae Ceri, Deri a’u ffrindiau yn helpu Dai i ddysgu mai’r hyn sy’n cyfrif yw cymryd rhan, mwynhau gwneud yr hyn yr ydym yn ei garu a dal ati.



