Disgrifiad
Ar drip ysgol i’r Amgueddfa Hanes Cenedlaethol yn Llundain, mae Jac a Megan yn cyfarfod eu hen ffrind, Cist. Mae’r tri yn mynd ar wib yn ôl i Academi Benwan y Cyfansoddwyr ac i ddinasoedd Salzburg, Fienna a Pharis, gan fentro ar antur arall i fyd yr opera – i’r Cyfnod Clasurol (1750–1820).



