Disgrifiad
Y gyfrol gyntaf mewn cyfres o ddwy am dramiau’r ddinas. Yma, olrheinir hanes tramiau dinas Leeds o’r dechreuadau yn niwedd yr 19eg ganrif hyd at y teithiau olaf ym mis Tachwedd 1959. Mae’r gyfrol hon yn archwilio’n fanwl hanes cynnar y tramiau ynghyd â chanolbwyntio ar y tramiau a wasanaethai orllewin y ddinas.



