Disgrifiad
Pan wêl Fletcher enfys lachar, mae’n benderfynol o’i helpu i ddisgleirio am byth. Gydag arweiniad ei ffrindiau, mae’n ymlid yr enfys drwy’r goedwig ddiferol… ond mae’r enfys yn dechrau diflannu. Cyn gynted ag y bo’r diferyn olaf o liw wedi cilio, mae Fletcher yn teimlo ei fod wedi methu – hyd nes iddo sylweddoli rhywbeth rhyfeddol.



