Disgrifiad
Stori ysbrydoledig Billy Boston – chwaraewr rygbi o Gaerdydd a brofodd hiliaeth, gan ei atal rhag chwarae dros ei wlad. Aeth yn ei flaen i chwarae rygbi’r gynghrair dros Wigan a chafodd yrfa chwedlonol gan sgorio dros 300 o geisiau a serennu i dîm Prydain Fawr.



