Disgrifiad
Sut a phryd y collodd dyn gyswllt â natur – a sut gellir ailddarganfod hyn. Mae’r awdur yn ceisio cynnig atebion wrth iddo gerdded dros 300 milltir trwy goedwigoedd hynafol a chyfoes Cymru, gan ymgolli yn eu straeon. Cyfrol sy’n plethu ynghyd hanes a chwedloniaeth gyda straeon am gynnydd a dadfeiliad diwydiannol.



