Disgrifiad
Mae Sarah Siân Chave yn mynd â ni am dro o darddiad afon Hafren i’r môr, gan ddilyn ei hynt o Bumlumon ym Mhowys wrth iddi ymdroelli trwy Loegr, cyn dod o hyd i’w ffordd yn ôl adref i Gymru ac i’r môr. Mae’r daith yn plethu chwedlau Celtaidd, straeon hanesyddol a phersonol yn ogystal â geiriau a syniadau Cymraeg.



