Disgrifiad
Gwelwyd gwaith celf Colin Howard ar tua deg ar hugain o dapiau VHS, ac am y tro cyntaf erioed, fe’u cesglir ynghyd yn y gyfrol hon. Ymunwch â Colin wrth iddo ddatgelu ei archif bersonol, gan fynd ar daith trwy ei waith ar fydysawd ‘Doctor Who’ – o fideos eiconig i gloriau llyfrau, o arlunwaith i gomisiynau personol.



