Disgrifiad
Dewch i gyfarfod Ronnie’r cwmwl, sy’n chwilio am antur. Mae’n teithio o dref i ddinas, ac ar draws cefnfor, gan gyfarfod llawer o gymylau eraill, ond does yr un ohonynt yn deall pwrpas ei daith. Stori dwymgalon sy’n dysgu plant am ddyfalbarhad, a sut mae’r amgylchfyd yn effeithio pob un ohonom.



