Disgrifiad
Cyfeillgarwch yw’r cyswllt mwyaf sylfaenol a ffrwythlon a gawn fel aelodau o’r hil ddynol. Mae’r flodeugerdd hon o straeon a cherddi yn crisialu harddwch unigryw cyfeillgarwch, yn ei amrywiaeth, ei uchelfannau a’i iselfannau, ei funudau perffaith a’i fwyaf arhosol. Rhodd yw cyfeillgarwch, ac yn y flodeugerdd hon, dyma rodd i ffrindiau.



