Disgrifiad
Hanes gwraig yn ailddarganfod ei gwreiddiau Cymreig, ac yn archwilio iaith a diwylliant y Gymru gyfoes. Symudodd yr awdures, Jane Parry, o Lydaw i Sir Fôn, gan ddarganfod bod ei theulu wedi byw yno am flynyddoedd lawer, a bod ei chyndeidiau wedi’u claddu ym mynwent yr eglwys, ganllath o’i chartref!



