Disgrifiad
Mae Molly yn derbyn anrheg gan ei Mam-gu sy’n byw ar ochr arall y byd, ‘Mam-gu-mewn-Blwch!’. Mae Molly wrth ei bodd â’i Mam-gu-mewn-Blwch ac yn mynd â hi i bobman, ond un diwrnod aeth y sgrin yn wag a diflannodd Mam-gu. Ceisiodd Molly ffonio Mam-gu, anfon neges destun ati, hyd yn oed ysgrifennu cerdyn post ati ond ni chlywodd yn ôl nes iddi…



