Disgrifiad
Mae’r Brigadydd, o Doctor Who ar deledu’r BBC, yn ymchwilio i greadur cysgodol erchyll. Nid yw’r Brigadydd Lethbridge-Stewart yn ddyn sy’n hoffi gadael pethau heb eu gorffen. Felly, mae ar golled pan gaiff ei orfodi i gymryd gwyliau ar ôl ei frwydr ddiweddar gyda ‘chreadur cysgodol’, achos sydd heb ei ddatrys yn llawn eto.



