Disgrifiad
Dyma Selwyn, draig hollol wahanol i unrhyw un arall. Nid yw’n anadlu tân nac yn gwarchod trysor, mae’n lledaenu llawenydd ble bynnag y mae’n mynd. Ond pan fydd storm bwerus yn bygwth ei ddyffryn, rhaid i Selwyn ddarganfod beth mae’n ei olygu mewn gwirionedd i fod yn arwr. Stori gynnes am garedigrwydd, dewrder a chyfeillgarwch.



