Disgrifiad
Detholiad o Gerddi Edward Moris. Yn un o feirdd Cymraeg galluocaf yr ail ganrif ar bymtheg, fe saif rhwng dau fyd. Canodd ddigon, yn null traddodiadol Beirdd yr Uchelwyr, o gywyddau mawl, marwnad, gofyn a chyfarch. Yn yr eithaf arall, gallai droi ei law at benillion rhydd.



