Disgrifiad
Mewn llenyddiaeth fel ym mhob celfyddyd ac yn wir drwy natur oll, mae tylwythau. Mae inni’r dewis o ddynodi tylwyth llenyddol yn ôl ffurf – nofel, englyn, drama, stori fer, cywydd &c &c, neu ynteu yn ôl cynnwys a thema, y pethau y mae’r gweithiau yn deud amdanom ac am fywyd yn gyffredinol.



