Disgrifiad
Pan gytunodd Gaenor i’w briodi, roedd Daf Dafis yn gobeithio am briodas fach deuluol ddi-ffwdan. Wnaeth o ddim dychmygu y byddai’n cael ei lusgo i mewn i drefniadau priodas Siôn, ei lysfab, yn y marci fwyaf yn y byd ar fferm Neuadd, yn ogystal â darganfod corff merch leol mewn sied ieir ar ôl ei pharti plu…



