Disgrifiad
Argraffiad newydd, syfrdanol o’r atlas cyntaf o ynysoedd Prydain, sy’n atgynhyrchu mapiau o gasgliad John Speed The Theatre of Great Britaine o’r flwyddyn 1611, a hynny mewn diwyg mawr am y tro cyntaf. Cynhwysir 67 map manwl mewn lliw llawn ynghyd â sylwebaeth gan Alasdair Hawkyard.






