Disgrifiad
Am dros dri chan mlynedd, bu rhai o lyngeswyr, môr-ladron ac uchelwyr enwoca’r byd yn gapteiniaid ar longau a chychod pleser oedd yn defnyddio hwyliau gafodd eu cynhyrchu o fras liain nodedig ardal Coker. Mae’r gyfrol hon yn archwilio hanes gwneud hwyliau yn East Coker, a’r effaith gafodd y ‘brand’ byd-enwog hwn ar yr ardal.



