Disgrifiad
Casgliad cyflawn o holl gerddi hysbys T. H. Parry-Williams rhwng 1907 a 1974, yn cynnwys y canon cyhoeddedig swyddogol yn ogystal â cherddi ychwanegol cynnar a diweddar. Bydd yn cynnwys hefyd ei gerddi Saesneg. Cynhwysir rhagymadrodd yn ogystal â nodiadau golygyddol a chefndirol. Dyma gynhyrchiad hardd, clawr caled.











