Disgrifiad
Yn y cyd-destun Cymreig, ceir llu o gyfrolau a bywgraffiadau, yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar ffigyrau pwysig ym mywyd Cymru. Bellach, ymunir â’r traddodiad hwnnw â chyfrol ar y gweinidog carismatig Samuel Roberts, Llanbryn-mail. Haedda S.R. astudiaeth drylwyr – nid yn unig ohono ef ei hun ond hefyd o’i dad, ei ddau frawd a’i gyfoeswyr.












