Disgrifiad
Iselder yw’r cyflwr iechyd meddwl amlycaf ledled y byd, ac mae’n effeithio ar filiynau o bobl bob blwyddyn. Ond gellir ei drin yn effeithiol gyda therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Mae’r llyfr rhagarweiniol hwn, gan ymarferwyr profiadol, yn egluro beth yw iselder, sut mae’n gwneud i chi deimlo a sut y medrwch ymdopi ag ef. Cyfieithiad Cymraeg.





