Disgrifiad
Hanes y cymeriad lliwgar a charismataidd Russell Jones, un o gyflwynwyr rhaglen Yn yr Ardd ar S4C. Yn cynnwys llawer o luniau ohono ef, ei deulu a’i ardd yn Rhostryfan, ger Caernarfon, a’i ddiddordebau amrywiol a gwahanol – fel cadw ieir a gwau! Cawn hefyd farn bendant Russell am hyn a’r llall, a phytiau hwyliog amdano gan aelodau o’i deulu.





